Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) | Childcare Funding (Wales) Bill

CCF 13

Ymateb gan: Cyngor Sir Caerfyrddin

Response from: Carmarthenshire County Council

 

To whom it may concern,

 

RE: Consultation response on behalf of Carmarthenshire County Council – Childcare Funding (Wales) Bill

 

 

Carmarthenshire County Council is fully committed at a local level to rolling out the Enhanced Childcare offer to eligible working parents of three and four year olds within the county. We have recently been invited by Welsh Government to be part of the year 2 pilot as an Engagement Authority from January 2019, working in partnership with ERW Consortia Authorities (Ceredigion, Powys and Pembrokeshire). 

 

 

 

We fully support the introduction of the Childcare Funding (Wales) Bill. There is a clear need for this legislation to deliver the Bill’s stated Policy objectives.  We also fully support the Welsh Governments preferred delivery agent for application and eligibility checking – Her Majesty’s Revenue and Customs (HMRC). Using HMRC’s system has a number of clear advantages which include the following:

§  Will enable eligibility checks to be made against real time data, which will provide a consistent system and approach across all Local Authorities  throughout Wales

§  Provide quick decisions for parents regarding  their eligibility

§  Reduce the risks around data security and fraud, particularly concerning for Local Authorities’s with new General Data Protection Requirements from 25th May 2018

§  HMRC will have three years of experience and learning by the time we fully roll this Offer out (2020). They have been undertaking the eligibility and administration in England for Tax Free Childcare initiative and the English Childcare Offer. They should therefore be well positioned to tailor for Wales having learnt a number of valuable lessons.

 

 

 

 

 

 

I'r sawl y mae'r canlynol yn berthnasol,

 

YNGHYLCH: Ymateb i'r ymgynghoriad ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin – Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwbl ymroddedig ar lefel leol i gyflwyno'r cynnig Gwell Gofal Plant i rieni cymwys sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed yn y sir. Rydym wedi derbyn gwahoddiad yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i fod yn rhan o gynllun peilot - Blwyddyn 2, fel Awdurdod Ymgysylltu o fis Ionawr 2019, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Consortiwm ERW (Ceredigion, Powys a Sir Benfro). 

 

 

Rydym yn gwbl gefnogol i gyflwyno'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae'n amlwg bod angen y ddeddfwriaeth hon er mwyn cyflawni amcanion polisi'r Bil a nodir.   Rydym hefyd yn gwbl gefnogol i'r asiant cyflenwi sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru o ran gwirio ceisiadau a chymhwysedd sef Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Ceir nifer o fanteision amlwg wrth ddefnyddio system Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy'n cynnwys y canlynol:

§  Bydd yn galluogi gwiriadau cymhwysedd i gael eu cyflawni drwy gymharu â data amser real, a bydd hyn yn darparu system a dull gweithredu cyson ar draws yr holl Awdurdodau Lleol ledled Cymru

§  Darparu penderfyniadau cyflym ar gyfer y rhieni ynghylch eu cymhwysedd

§  Lleihau'r risgiau o ran diogelwch data a thwyll, yn enwedig o ran yr Awdurdodau Lleol sydd â Gofynion Diogel Data Cyffredinol newydd o 25 Mai 2018.

§  Bydd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi dair blynedd o brofiad a dysgu erbyn i ni gyflwyno'r cynnig hwn (2020). Mae wedi bod yn cynnal y gwaith o wirio cymhwysedd a'r gwaith gweinyddol yn Lloegr ar gyfer y Cynllun Gofal Plant Di-dreth a'r cynnig Gofal Plant yn Lloegr.  Dylai felly fod mewn sefyllfa dda i addasu hyn ar gyfer Cymru ar ôl dysgu nifer o wersi gwerthfawr.